Deiseb a gaewyd Rhaid i bolisïau neu brosiectau’r Llywodraeth sy’n costio dros £10 miliwn gael eu cymeradwyo gan etholwyr

Ar gyfer pob un o bolisïau neu brosiectau’r Llywodraeth sy’n costio dros £10 miliwn, dylid cynnal refferendwm lle caiff etholwyr gymeradwyo neu wrthod y cynnig. Rhaid rhoi’r gorau i gamddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer syniadau hunanfaldodus a hurt y Llywodraeth!
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr, er enghraifft ar brosiect trychinebus ffordd osgoi’r M4 o gwmpas Casnewydd. Gwastraffwyd £35 miliwn ar gyflwyno terfyn cyflymder 20 mya, sef y polisi diweddaraf i gael ei wrthod gan etholwyr ond fe’i cyflwynwyd beth bynnag.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

575 llofnod

Dangos ar fap

10,000