Deiseb a gaewyd Gosod rheolau llymach i gyfyngu ar y rhoddion a’r taliadau a gaiff Aelodau o’r Senedd

Mae’r rhoddion sylweddol a gafodd Aelod blaenllaw o’r Senedd yn ddiweddar wedi bod yn destun cryn bryder ymhlith y cyhoedd. Rhaid dysgu gwersi yn sgil hyn.

Rhagor o fanylion

Rhaid i Gymru gynnal a gwella ei henw da am dryloywder ac uniondeb. Mae dyletswydd ar bob Aelod o’r Senedd i sicrhau na fydd unrhyw wrthdaro, neu unrhyw ganfyddiad o wrthdaro, rhwng ei ddyletswyddau cyhoeddus a’i fuddiannau preifat.
Rhaid sicrhau na all neb dalu, neu ymddangos fel petai’n talu, am ddylanwad gwleidyddol. Dylid asesu’n ofalus o ble y daw’r holl fuddiannau y mae Aelodau’n eu cael.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

343 llofnod

Dangos ar fap

10,000