Deiseb Darparu trafnidiaeth ysgol am ddim i bob disgybl

Credwn fod pob plentyn yn haeddu mynediad cyfartal i addysg, ni waeth beth fo sefyllfa ariannol ei deulu, pa mor bell o’r ysgol y mae’n byw, ac a yw’n dewis ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ffydd ai peidio. Trwy ddileu costau trafnidiaeth, gallwn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y cyfle i ffynnu yn academaidd. Cefnogwch ein deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu mynediad teg at addysg i bob plentyn yng Nghymru. Gyda'n gilydd, gallwn ni ddatblygu dyfodol disgleiriach i'n myfyrwyr!

Rhagor o fanylion

Mae mynediad at addysg yn hawl sylfaenol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae cost teithio i’r ysgol yn rhwystr sylweddol i lawer o deuluoedd. Mae costau amrywiol yn rhoi straen ar gyllidebau, yn enwedig ar gyfer aelwydydd incwm isel. Mae'r baich ariannol hwn yn rhwystro mynediad myfyrwyr at addysg, gan arwain at fwy o absenoldebau a pheri i anghydraddoldebau barhau. Byddai trafnidiaeth ysgol am ddim yn ysgafnhau’r baich hwn, gan sicrhau mynediad cyfartal at addysg i bob myfyriwr. Byddai'n gwella presenoldeb, ymgysylltiad, a chyflawniad academaidd a hyrwyddo arferion cynaliadwy ar yr un pryd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r cynnig hwn ar gyfer system addysg decach a mwy cynhwysol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

15 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon