Deiseb a gaewyd Atal llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr
Dosbarthwyd Bae'r Tŵr Gwylio ac Aberogwr yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig newydd yn 2023.
Mae’r ddau draeth bellach wedi methu â chyrraedd y gofynion isaf ar gyfer ansawdd dŵr ymdrochi, a nhw oedd yr unig safleoedd ymdrochi yng Nghymru i fynd i’r categori 'gwael', gyda Llywodraeth Cymru yn dweud bod hyn yn "siomedig".
Yn hytrach na chodi arwyddion yn rhybuddio pobl i beidio â nofio ar y traethau hyn, dylai'r Cyngor, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru fod yn gweithredu i atal y llygredd hwn.
Rhagor o fanylion
Rydym wedi bod yn ymgyrchu ers nifer o flynyddoedd yn erbyn y llygredd carthion sy'n mynd i'r Hen Harbwr a Bae'r Tŵr Gwylio yn y Barri.
Rydym wedi nodi mai pibellau gollwng carthion dynol a'r bibell gollwng o lyn y Cnap, sydd â phoblogaeth fawr o elyrch a gwyddau yn byw yno, yw prif achos y llygredd hwn mwy na thebyg.
Mae angen trin y dŵr hwn mewn tanciau cadw cyn ei ryddhau i'r môr.
Mae angen gweithredu i atal y llygredd ym Mae’r Tŵr Gwylio ac Aberogwr… digon yw digon!
Byddwn yn dod â'r ddeiseb hon i ben ar Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd ddydd Sadwrn 8 Mehefin 2024...mae taer angen i ni amddiffyn ein cefnforoedd!
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon