Deiseb Etholiad cyffredinol awtomatig os yw'r blaid sydd mewn grym yn newid ei harweinydd ac felly'n newid y Prif Weinidog yng nghanol tymor.
Rydym wedi gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn newid ei harweinydd ac felly’n newid y Prif Weinidog sawl gwaith, ac yn fwy diweddar yn y Senedd gyda Vaughan Gething yn cymryd lle Mark Drakeford fel Prif Weinidog.
Rhagor o fanylion
Rwy’n credu’n gryf y dylai arweinydd plaid sy’n sefyll etholiad yn y Senedd wasanaethu drwy gydol tymor y Senedd a pheidio â rhoi’r gorau i’r rôl hanner ffordd drwodd am resymau heblaw marwolaeth neu salwch difrifol. Dylid newid y gyfraith i sicrhau, os bydd y Prif Weinidog yn newid, y dylai sbarduno etholiad cyffredinol ar unwaith, fel y gall yr holl etholwyr benderfynu pwy sy’n arwain Cymru.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd