Deiseb a gaewyd Cael gwared ar y Cynllun Cymru Wrth-hiliol, sy’n gynllun HILIOL a hurt

Oeddech chi’n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft yn 2020/21? Ailenwyd yn Gynllun Cymru Gwrth-hiliol? Na? DIM OND 500 o bobl a ymatebodd i'r ymgynghoriad hwn. Bwriad y “Cynllun” hwn yw newid polisïau’r Llywodraeth er mwyn bodloni cwotâu ‘ecwiti’. Nid cydraddoldeb. Credaf fod hyn yn wahaniaethol ac yn hiliol ac yn seiliedig ar DDAMCANIAETH Hil Beirniadol (neu ‘Critical Race Theory’). Yn ogystal ag ar brofiadau personol anecdotaidd. Nid ffeithiau. Mae’n rhybuddio am ganlyniadau dull gweithredu lliwddal. Mae angen cael gwared ar hyn ar unwaith.

Rhagor o fanylion

Yn ôl Llywodraeth Cymru: “Drwy ymgysylltu â chymunedau a dadansoddi’r ymatebion i’n hymgynghoriad, daeth yn amlwg bod angen dull gweithredu gwrth-hiliol”.

Yn fy marn i, mae hyn yn hyrwyddo gwahaniaethu a hiliaeth, yn gwastraffu ein harian, a bydd yn cael effaith ar Gymru gyfan. Wrth gyflwyno’r Cynllun Cymru Gwrth-hiliol, rhybuddir, “yn aml, tybir mai ‘darparu’r un peth i bawb’ fydd y gwasanaeth mwyaf priodol. Ond mewn gwirionedd, drwy ystyried gwahaniaethau pobl … y ceir gwasanaeth mwy sensitif, hygyrch ac effeithiol. Yn aml mae’r dull gweithredu lliwddall yn golygu bod pobl ethnig leiafrifol yn ei chael hi’n anodd cael swyddi, camu ymlaen, neu gael gwasanaethau sy’n addas i’w hanghenion.

I ni, mae gwrth-hiliaeth yn ymwneud â mynd ati’n rhagweithiol i nodi a dileu polisïau, systemau, strwythurau a phrosesau sy’n arwain at ganlyniadau gwahanol iawn i grwpiau ethnig lleiafrifol.”
Mae hyn yn warthus ac mae angen ei ddileu.
https://www.llyw.cymru/cyflwyniad-ir-cynllun-cymru-wrth-hiliol-html

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

433 llofnod

Dangos ar fap

10,000