Deiseb Cyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at y rhestr A i Y ar ei wefan 111

Mae mis Ebrill yn Fis Ymwybyddiaeth o Adenomyosis ac mae Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) am weld yr ymwybyddiaeth honno’n ymestyn i GIG Cymru. Adenomyosis yw un o'r cyflyrau iechyd mislif mwyaf cyffredin – ond nid yw llawer erioed wedi clywed amdano.
Yn wahanol i wefannau GIG Lloegr a GIG yr Alban, nid yw gwefan 111 GIG Cymru yn cynnwys adenomyosis ar ei wefan A i Y, er gwaetha’r ffaith bod y cyflwr yn effeithio ar fwy nag 1 o bob 10 o fenywod a phobl â chroth – sef yr un nifer â menywod sy'n byw gyda diabetes neu asthma!

Rhagor o fanylion

Mae FTWW yn galw ar y Senedd i gyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu adenomyosis at y rhestr A i Y o gyflyrau ar ei wefan 111, a hynny i sicrhau bod gan gleifion yng Nghymru yr un wybodaeth ddibynadwy – yn Gymraeg a Saesneg – â chleifion yn Lloegr neu’r Alban.
Mae adenomyosis yn digwydd pan fydd leinin y groth yn dechrau tyfu i mewn i'r cyhyr yn wal y groth. Mae'r diagnosis ohono’n fwy cyffredin ymhlith menywod dros 30 oed, ond gall effeithio ar unrhyw un sy'n cael mislif. Gall symptomau gynnwys mislifoedd trwm a phoenus iawn, chwyddo a theimlad o drymder neu lawnder yn y bol, poen cefn, poen yn rhan uchaf y goes, blinder, a rhyw poenus.
Mae’n gyffredin ei weld ochr yn ochr ag endometriosis. Yn aml, pan fydd cleifion yn nodi bod symptomau yn lleddfu ar ôl hysterectomi, y tebyg yw mai adenomyosis oedd ar fai – ond nid oedd gan lawer o gleifion unrhyw syniad bod y cyflwr arnyn nhw ac nid ydynt yn cael unrhyw wybodaeth amdano. Rydym am weld hynny’n newid!

Llofnodi’r ddeiseb hon

312 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon