Deiseb Dylid cyflwyno profion arferol ar gyfer Strep B ym mhob menyw feichiog ledled Cymru.
Nid yw Strep B heb ddiagnosis yn ystod beichiogrwydd yn niweidiol i'r fam, ond gall fod â chanlyniadau difrifol i'r babi newydd-anedig (yn ystod y beichiogrwydd a thrwy esgor). Gall y bacteria Strep B achosi genedigaeth gynamserol, niwmonia, septisemia a llid yr ymennydd.
Gallai profion arferol helpu mamau sy'n feichiog i gael cwrs o wrthfiotigau syml i helpu i atal y cyflyrau hyn sy'n bygwth bywyd.
Rhagor o fanylion
Yn ôl y GIG, mae 2-4 menyw o bob 10 yn cario bacteria Strep Grŵp B ac mae risg bach y gall gael ei ledaenu i’r babi yn ystod y cyfnod esgor, a’i wneud yn sâl. Mae'r GIG yn dyfynnu y gall hyn ddigwydd mewn 1 o bob 1750 beichiogrwydd.
Mae risg o gamesgor neu golli babi.
Os oes cyfle i achub hyd yn oed un babi, yna byddai profion arferol yn werth eu cynnal, a byddent yn atal teuluoedd rhag mynd drwy dorcalon a cholled.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd