Deiseb Galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth iechyd meddwl brys i dadau newydd

I dadau â phroblemau iechyd meddwl, ystyrir bod y risg o hunanladdiad hyd at 47 y cant yn uwch yn ystod y cyfnod amenedigol nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau (Quevedo et al., 2010).
Mae ymchwil newydd hefyd yn dangos mai 22 y cant yw’r risg o gael gorbryder ac iselder i dad newydd yn ystod y cyfnod amenedigol. Mae trawma geni yn effeithio ar o leiaf 30,000 o fenywod yn y DU; mae tadau’n dyst i’r trawma hwn ac nid ydynt yn cael cymorth ar gyfer PTSD. Mae tadau hefyd yn colli babanod, ac mae angen iddynt gefnogi eu babanod ar wardiau newyddenedigol.
Rydym am i Lywodraeth Cymru sefydlu gwasanaeth i gefnogi tadau mewn timau iechyd meddwl amenedigol ledled Cymru. Rydym hefyd am i dadau gael cymorth ariannol am hyd at chwe wythnos.

Rhagor o fanylion

Rwy’n rhan o adroddiad sydd ar y gweill, gyda Theo Clarke AS, ar dadau a thrawma geni. Edrychwch ar ‘Fathers Reaching Out - Why Dads Matter’ a gyhoeddwyd yn 2020 gyda’r holl argymhellion i gefnogi tadau yn well. Drwy gefnogi iechyd meddwl pob rhiant newydd, gellir sicrhau canlyniadau llawer gwell i’r teulu cyfan, gan gynnwys y babi. Os nad ydym yn cynnwys tadau, mae posibilrwydd y bydd effaith ar famau, Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, Cam-drin Sylweddau, Torri Perthynas, Argyfwng mewn gwasanaethau eraill a pheidio â mynd i wraidd yr achos. Un o achosion mwyaf marwolaeth dynion yw hunanladdiad ac oherwydd y risg uchel ymhlith tadau newydd, mae hyn yn fater brys. Iechyd Meddwl Tadau yw un o brif achosion hunanladdiad, ond nid ydym yn sgrinio nac yn cefnogi tadau yn 2024.

Llofnodi’r ddeiseb hon

108 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon