Deiseb Gostwng y terfyn cyflymder o 50mya i 40mya, ar hyd yr A483 wrth deithio drwy Crossway a Hawy.

Mae’r safle mwyaf ar gyfer cartrefi mewn parciau wedi’i leoli yn Crossway a Hawy, ac nid oes croesfan ddiogel i’r henoed sy'n byw ar y safle, ger cefnffordd yr A483.
Gyferbyn â'r safle hwn mae llawer o deuluoedd ifanc yn byw ac mae disgwyl iddynt gerdded ar hyd y gefnffordd i fynd i’r ysgolion lleol yn Llandrindod. At hynny, mae pentref Hawy hefyd wedi’i leoli gerllaw'r ardal sydd â therfyn cyflymder o 50mya.
Nid yw'r cais hwn i ostwng y terfyn cyflymder o fewn cylch gorchwyl yr awdurdod lleol.

Rhagor o fanylion

Mae trigolion yn yr ardal hon, ers blynyddoedd lawer, wedi gofyn i'r awdurdod lleol fynd i'r afael â phryderon ynghylch y terfyn cyflymder o 50mya ac wedi gofyn am iddo gael ei leihau i derfyn cyflymder mwy diogel o 40mya.
Yn dilyn ymgynghoriad a datblygiad y Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol, dewiswyd y llwybr rhwng Llandrindod a Hawy a chytunwyd arno. Bydd y gwaith tuag at Hawy yn cynnwys lledu’r palmentydd a gwella’u harwynebau i’w troi’n llwybr cyd-ddefnyddio hygyrch, gwelliannau i gyffyrdd yn unol â’r fersiwn newydd o Reolau’r Ffordd Fawr, gan sicrhau bod cerddwyr a beicwyr yn cael blaenoriaeth, a gwella diogelwch i holl ddefnyddwyr y ffyrdd. Mae hyn yn dod â phryderon ychwanegol ynghylch cyflymder cerbydau drwy'r rhan hon o'r A483.
Credwn fod y datblygiad hwn yn yr ardal hon yn golygu bod yr angen i leihau’r terfyn cyflymder yn fwy nag o'r blaen. Gofynnwn i’r Senedd leihau’r terfyn cyflymder i 40mya drwy Crossway a Hawy i’w gwneud yn ardal fwy diogel i deithio ynddi ac i flaenoriaethu diogelwch trigolion.

Llofnodi’r ddeiseb hon

5 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon