Deiseb a gaewyd Gwahardd Ambiwlansys rhag cael eu defnyddio fel gwelyau ychwanegol ar gyfer ysbytai
Mae pobl yn marw HEB FOD ANGEN oherwydd nad oes Ambiwlansys ar gael, gan eu bod yn cael eu defnyddio fel gwelyau ychwanegol y tu allan i ysbytai ag unedau achosion brys ledled Cymru.
Rhagor o fanylion
‘Ni all y sefyllfa sydd ohoni barhau’: Mae parafeddygon yng Nghymru yn rhybuddio bod cleifion yn aros hyd at 26 awr i fynd i'r ysbyty.
Dywedodd prif weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens, wrth Sky News nad oedd 38% o’i ambiwlansys ar gael yn ystod mis Rhagfyr oherwydd yr oedi hir wrth gael cleifion i mewn i ysbytai.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod