Deiseb Estyn Unedau Cyfeirio Disgyblion i gynnwys darpariaeth chweched dosbarth
Dw i’n 15 oed ac yn mynd i uned cyfeirio disgyblion yn Sir Gaerfyrddin. Dw i wedi gweddnewid fy mywyd a dw i’n dechrau cyrraedd fy mhotensial, ond mae’n amser symud i’r coleg nawr. Dw i ddim yn barod am y coleg a byddai aros am ddwy flynedd arall o fudd i mi.
Rhagor o fanylion
Mae 7 disgybl yn fy ngrŵp blwyddyn ac mae pob un yn dweud y byddai’n well aros am ddwy flynedd arall ac maen nhw’n poeni na fyddan nhw’n gwneud dim byd ar ôl gadael yr ysgol.
O edrych ar gyn-ddisgyblion, mae’r rhan fwyaf yn gadael y coleg o fewn ychydig o wythnosau gan nad yw’r coleg yn gallu rhoi cymaint o gymorth ag mae llawer ohonon ni ei angen.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd