Deiseb Creu ynni o’r digonedd o ddŵr sydd gennym

Creu strwythur ynni newydd yng Nghymru. Unwaith, glo oedd yn gyfrifol am ffyniant Cymru; nawr mae’n bryd i ni gael ffyniant drwy greu ynni o’n dŵr. Mae gennym ddigonedd o ddŵr yn llifo drwy ein cymoedd ac o amgylch ein harfordir. Dŵr yw ein hadnodd mwyaf bellach, mae’n lân ac ar gael am y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ac eto rydym yn wynebu llifogydd a sychder, sy’n wallgofrwydd pur.

Rhagor o fanylion

Tyfodd poblogaeth cymoedd De Cymru yn arbennig yn aruthrol yn sgil y diwydiant cloddio glo, sydd wedi hen ddiflannu. Mae’n pryd i ni greu seilwaith ynni newydd yn lle ein hen ddiwydiannau, gan ddarparu swyddi ac ynni glân drwy argaeau trydan dŵr a môr-lynnoedd llanw.

Llofnodi’r ddeiseb hon

10 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon