Deiseb a gwblhawyd Darparu cyllid a chymorth ar gyfer darpariaeth ddigonol o doiledau cyhoeddus hygyrch a glân.
Mae ymchwil gan y Wales Seniors Forum yn dangos nad yw llawer o bobl hŷn yn gadael y tŷ, neu maent yn lleihau’r amser maen nhw allan o’r tŷ, oherwydd diffyg toiledau cyhoeddus. Gall hyn arwain at deimlo’n ynysig ac yn unig. Mae darpariaeth annigonol o gyfleusterau yn fater o iechyd y cyhoedd sy’n effeithio ar bob un ohonom, ac yn atal rhai pobl rhag cael mynediad llawn i’w cymunedau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon