Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cau
Deiseb a gaewyd Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol
Sicrhau clustogfa orfodol ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol yng Nghymru. Rydym yn cynnig clustogfa o 1,000.00 metr o leiaf oddi wrth yr holl ardaloedd preswyl, ysgolion, ysbytai a chyfleusterau gofal. Ar hyn o bryd mae'r gyfraith yn caniatáu i chwareli gael eu lleoli mor agos â 200 metr i ffwrdd o ardaloedd preswyl ac ysgolion. Mae hyn yn effeithio ar iechyd pobl ac yn achosi difrod i eiddo. Gorau po fwyaf maint y glustogfa y gallwn ei chael.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Busnes arall y Senedd
Llofnodion ar bapur
Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 9,888 o lofnodion ar bapur. Sef cyfanswm o 11,473 lofnodion.