Deiseb Gwyliau ysgol byrrach ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol

Diben y ddeiseb hon yw gwneud rhai newidiadau ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae diffyg strwythur a threfn yn golygu y gall gwyliau’r ysgol fod yn heriol i'r rhan fwyaf o blant, ac mae’r sefyllfa hon yn anoddach fyth i blant ag ADY. Er bod rhieni'n ymdrechu'n galed i gynnal trefn, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Dyma enghreifftiau o’r heriau sy’n codi: y ffaith bod yn rhaid i rieni weithio; y tywydd; cost digwyddiadau; lleoedd cyfyngedig; lleoedd cyfyngedig y gall plant fynd iddynt yn sgil rhesymau sy’n ymwneud â’r synhwyrau neu faterion diogelwch; diffyg adnoddau; neu ddiffyg mynediad ar gyfer pobl anabl.

Rhagor o fanylion

Gall plant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol fynychu clybiau gwyliau mewn meithrinfeydd dydd. Fodd bynnag, nid yw’r rhan fwyaf o’r meithrinfeydd hyn yn darparu gwasanaethau ar gyfer plant ag ADY, a hynny yn sgil diffyg hyfforddiant neu leoedd, neu oherwydd y goblygiadau o ran costau staffio, gan y byddai angen iddynt fodloni cymhareb benodol o ran staff a phlant. Er enghraifft, yng Nghymru, y gymhareb staffio ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed yw un aelod o staff i bob wyth o blant. Ar gyfer plant rhwng 8 a 12 oed, y gymhareb yw un aelod o staff i bob deg o blant. Ni fyddai hyn yn bosibl i blentyn ag ADY, ac ni fyddai’n foesegol ychwaith. Mae angen mwy o drefn a strwythur ar blant ag ADY, ond yn ystod gwyliau’r ysgol, disgwylir iddynt addasu. Yn ogystal, beth am rieni sy'n gweithio? Nid oes modd iddynt gymryd chwe wythnos neu fwy i ffwrdd o’r gwaith. Felly, i ble y dylai eu plant hwy fynd? Os nad oes modd byrhau’r gwyliau, siawns y dylid darparu cyllid ychwanegol i sefydlu clybiau gwyliau ar gyfer plant ag ADY, yn union fel y ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer plant nad oes ganddynt ADY. Mae hon yn sefyllfa lle dylid ystyried cydraddoldeb a hawliau'r plentyn.

Llofnodi’r ddeiseb hon

123 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon