Deiseb a gaewyd Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai.
Mae yna bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth o Gymru sy'n byw mewn ysbytai. Mae hyn yn sgandal hawliau dynol sydd wedi cael ei anwybyddu ers gormod o amser.
Mae llawer o bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth wedi’u dal mewn ysbytai oherwydd diffyg tai a chymorth priodol yn eu cymuned. Mae llawer yn cael eu dal o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl oherwydd methiant lleoliad a’r ffaith eu bod wedi cael eu rhoi mewn lleoliad amhriodol.
Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod nad dal pobl dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yw'r ateb.
Rhagor o fanylion
Mae Stolen Lives yn grŵp ymgyrchu ar gyfer teuluoedd sydd ag anwyliaid ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth sydd yn cael, neu sydd wedi cael, eu dal mewn ysbyty.
Maen nhw’n cael eu cefnogi gan aelodau o Gonsortiwm Anabledd Dysgu Cymru: Anabledd Dysgu Cymru, Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Cymdeithas Syndrom Down, a Cymorth Cymru.
Nid yw ysbytai yn gartrefi. Mae llawer o ysbytai yn bell oddi wrth deuluoedd pobl, ac mae achosion o gam-drin ac esgeulustod yn llawer rhy gyffredin.
Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym sut y mae’n bwriadu rhoi’r gorau i ddefnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn y modd hwn a sut y mae’n bwriadu dod â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cael eu dal o dan y Ddeddf yn nes adref ac allan o ysbytai, a dweud wrthym faint yn union o blant, pobl ifanc ac mae oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd oddi cartref ar hyn o bryd mewn ysbytai iechyd meddwl ac unedau asesu a thrin fel y'u gelwir.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon