Deiseb a wrthodwyd Gwnewch Ebrill 7fed yn ddiwrnod i gofio hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi yn Rwanda yng Nghymru
Byddai diwrnod i gofio’r hil-laddiad yn erbyn ethnigrwydd Tutsi yn Rwanda yn dangos nod i hybu dealltwriaeth a chydgyfrifoldeb i frwydro yn erbyn casineb, gwahaniaethu a thrais yn ei holl ffurfiau, ac atal erchyllterau tebyg yn y dyfodol. Dylai'r gweithgareddau gynnwys munud o dawelwch a datganiad gan y Prif Weinidog neu unrhyw un o bobl Rwanda sydd o bosibl yn byw yng Nghymru ac â diddordeb.
Rhagor o fanylion
Yn ddiweddar, mae maer Ottawa wedi penderfynu gwneud Ebrill 7fed, 2024 yn ddiwrnod i gofio hil-laddiad Rwanda yn erbyn y Tutsi er gwaethaf diffyg cysylltiad Canada â’r hil-laddiad na Rwanda ei hun, felly oni ddylai Cymru ddilyn y camau hyn? Nid oes gan Gymru ychwaith bron ddim i’w wneud â Rwanda, ond, byddai’n ennyn parch wrth iddi gydnabod digwyddiadau erchyll yr hil-laddiad yn erbyn y Tutsi. Byddai nodi’r diwrnod yn fodd o sicrhau nad yw’r erchyllterau hyn yn digwydd eto, ac i ddysgu oddi wrthynt er mwyn brwydro yn erbyn casineb, gwahaniaethu, a rhaniadau. Byddai’n fater pwysig y mae’r Senedd yn rhoi blaenoriaeth iddo er mwyn i Gymru fod yn wlad nad yw’n hiliol, neu nad yw’n gwahaniaethu.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi