Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cau
Deiseb a gaewyd Dylid cynnal adolygiad cynhwysfawr o waith Cyfoeth Naturiol Cymru a methiannau’r sefydliad o ran cyflawni ei rwymedigaethau statudol i ddiogelu Cymru
Am fwy na degawd, mae’r asiantaeth sydd â mandad i ddiogelu amgylchedd Cymru wedi gweld dirywiad yn ei gallu i ymgymryd â’i diben statudol, yn fy marn i.
Dylid achub afonydd llygredig Cymru (sef rhydwelïau ein byd natur) a rhoi bywyd newydd iddynt.
Mae angen cynnal adolygiad cynhwysfawr o erlyniadau diffygiol y corff, ynghyd â’i ddiffyg gweithredu, a hynny er mwyn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Mae mwyafrif helaeth y staff sy’n gweithio yn y sefydliad yn gwneud hynny’n ddiwyd, gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ganddynt, er mwyn diogelu amgylchedd Cymru.
Mae gor-gymhlethu materion ac ymgymryd â phrosiectau diangen yn arwain at ostyngiad mewn adnoddau ariannol a diffyg gweithredu mewn meysydd blaenoriaeth.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cynhwysfawr o’r modd y caiff prosiectau eu hariannu, gyda’r nod o ddileu gwariant gwastraffus a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl o ran y materion sylfaenol y mae amgylchedd Cymru yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Mae hyn yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, diogelu ac adfer systemau afonydd Cymru er budd y byd naturiol a’r bobl sy’n eu mwynhau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod