Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cau

Deiseb a gaewyd Dylid cyflwyno rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru

Gall teganau plant fod yn ddrud, maent yn aml yn cael eu defnyddio am gyfnod byr yn unig, gallant ychwanegu at annibendod mewn cartrefi ac yn aml maent yn cael eu taflu i ffwrdd, hyd yn oed os nad ydynt wedi torri.
Mae llyfrgelloedd teganau wedi profi eu hunain fel ffordd o gynnig mynediad at lawer o deganau na fyddai plant yn dod i gysylltiad â nhw oherwydd cost neu hyd yn oed ddiffyg lle yn y cartref. Maent yn opsiynau effeithiol o ran cost yn lle prynu teganau newydd, gallant fod yn fforymau cymunedol i ddod â rhieni a gofalwyr at ei gilydd a gallant helpu i leihau ein defnydd o adnoddau.

Rhagor o fanylion

Mae rhieni a gofalwyr yn gwario oddeutu £300 ar gyfartaledd ar deganau bob blwyddyn. Teganau plastig yw llawer o’r rhain. Gyda’r rhan fwyaf o blastig yn cael eu wneud o olew, yr amcangyfrif yw y gallai plastig gyfrif am oddeutu 20 y cant o’r holl ddefnydd olew ledled y byd, os na fyddwn ni’n cymryd camau ynghylch hyn.
Mae gan lyfrgelloedd teganau eu rhan i’w chwarae yn lleihau gwastraff, lleihau’r defnydd o blastic, lleihau allyriadau i’r hinsawdd ac arbed arian i rieni, gofalwyr a theuluoedd hefyd.
Byddai hyn yn helpu ffocws Llywodraeth Cymru ar yr ‘hawl i chwarae’ i blant a’r ‘economi gylchol’.
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda phob grŵp perthnasol yng Nghymru i gyflwyno rhwydwaith cenedlaethol o lyfrgelloedd teganau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

297 llofnod

Dangos ar fap

10,000