Deiseb Gwneud y menopos yn rhan orfodol o'r cwricwlwm ar gyfer pob myfyriwr y gwyddorau gofal iechyd a meddygaeth.

Mae tua 50 y cant o'r boblogaeth yn profi’r menopos. Mae amrywiaeth eang o symptomau a risgiau iechyd hirdymor yn gysylltiedig ag ef a all effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, ac i rai pobl a all effeithio ar eu gallu i weithio, cymdeithasu, a chynnal iechyd a llesiant da.
Er gwaethaf hyn, prin yw’r addysg am y menopos yn ystod rhaglenni gofal iechyd a hyfforddiant meddygol yng Nghymru, ac nid oes gofyniad gorfodol i gynnwys y pwnc hwn.

Rhagor o fanylion

Nid meddygon yn unig fydd yn gofalu am bobl sy’n profi symptomau’r perimenopos a’r menopos. O’r herwydd, yn ogystal â galw ar i bob myfyriwr meddygol gael ei addysgu am symptomau ac ymyriadau’r menopos, rydym hefyd yn galw am addysgu holl fyfyrwyr y gwyddorau gofal iechyd yng Nghymru. Bydd nyrsys, ffisiotherapyddion, deintyddion, optometryddion, fferyllwyr, radiograffwyr, ymarferwyr adrannau llawdriniaethau, therapyddion lleferydd ac iaith, a therapyddion galwedigaethol i gyd yn dod ar draws pobl sy'n profi’r menopos yn eu harfer proffesiynol. Bydd addysg orfodol yn galluogi mwy o hyder a chymhwysedd wrth adnabod y perimenopos/menopos, ac yn gwella canlyniadau i gleifion.
Gall adnabod y perimenopos/menopos yn brydlon alluogi gweithwyr gofal iechyd a meddygol proffesiynol i rymuso cleifion i weithio mewn partneriaeth i reoli eu hiechyd eu hunain yn effeithiol, lleihau gwastraff drwy ragnodi diangen, a lleihau apwyntiadau ailadroddus ac atgyfeiriadau diangen ar adeg pan fo adnoddau yn y GIG yng Nghymru dan bwysau.

Llofnodi’r ddeiseb hon

340 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon