Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cwblhau
Deiseb a gwblhawyd Mae angen ymchwiliad gyhoeddus ar bobl Cymru i’r rhodd o £200,000 i Vaughan Gething.
Gwnaed rhodd o £200,000 i Vaughan Gething i gefnogi ei gais i ddod yn Brif Weinidog, er mai dim ond mater o ganfasio am bleidleisiau gan undebau llafur oedd hyn i bob pwrpas. Cafodd y cwmni a wnaeth y rhodd fenthyciad sylweddol gan Fanc Datblygu Cymru, is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru. Dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn dod i ddeall manylion y benthyciad, ei ddiben, y rhodd yn dilyn hynny, a sut y gwariwyd y rhodd.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon