Deiseb Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder.

Mae ffordd brysur yr A4042 yn teithio’n uniongyrchol trwy bentref treftadaeth Llanofer. Mae angen i drigolion ac ymwelwyr groesi’r ffordd i ddefnyddio’r gwasanaeth bws, cael mynediad at amwynder Camlas Mynwy ac Aberhonddu ac ymweld â gerddi enwog Llanofer sy’n agor i’r cyhoedd yn achlysurol drwy gydol y flwyddyn. Y terfyn cyflymder ar hyn o bryd yw 40mya. Mae trigolion o bob oedran yn teimlo'n anniogel wrth ddefnyddio'r gwasanaeth bws. Mae'r pentref yn denu ymwelwyr ar bob adeg o'r flwyddyn. Mae'r arosfannau bysiau wedi'u lleoli ger mynedfa'r ardd.

Rhagor o fanylion

Mae Llanofer yn bentref yn Sir Fynwy sydd wedi'i drwytho mewn hanes Cymru. Gellir gweld cymeriad y pentref hwn drwy olygfa ei stryd. Mae'r ffordd sy'n mynd drwyddo yn droellog. Nodweddir yr adeiladau eu hunain gan y muriau oedd yn eu ffinio. Mae pob adeilad yn unigryw. Mae waliau cerrig hefyd yn ffinio Tŷ Llanofer a’r gerddi.
Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru wedi cydnabod perygl y ffordd droellog hon sydd â waliau cerrig ar bob ochr ac mae wedi gosod llinellau dwbl gwyn ar y lôn gerbydau i annog pobl i beidio â goddiweddyd.
Mae'r terfyn cyflymder yn parhau i fod yn 40 mya. Mae'r arosfannau bysiau wedi'u lleoli ger y gatiau i erddi Llanofer. Mae traffig yn dod i mewn i'r pentref o'r de lle mae'r terfyn cyflymder cenedlaethol yn berthnasol - yn aml heb arafu digon. Mae'r terfyn cyflymder yn newid i 40mya dim ond tua 100 metr o'r arosfannau bysiau. Dyma lle mae'r angen mwyaf am groesfan a dyma fyddai'r lleoliad synhwyrol. Mae lorïau a thractorau mawr yn mynd drwy'r pentref. Mae'r waliau'n cael effaith twndis, ac mae'r tagfeydd yn sylweddol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

79 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon