Deiseb a gaewyd Mae datblygiadau ffermydd gwynt yn debyg i foddi cymoedd Cymru a’r hen ddiwydiant llechi. Stopiwch nhw.
Mae ecsbloetio bryniau gwyllt Cymru at ddefnydd cwmnïau glo enfawr a chwmnïau ynni eraill yn debyg i foddi cymoedd Cymru a diwydiannau llechi Fictoraidd.
Nid yw’r datblygiadau hyn yn cael eu caniatáu mewn rhannau cyfoethog o Loegr, ond mae’n rhaid i gymunedau tlotach Cymru ysgwyddo’r baich.
Ni ddylai newid hinsawdd fod yn esgus i dorri allan mawndir sy’n storio carbon a thywallt miliynau o dunelli o goncrid i gynefinoedd gylfinirod a fflora a ffawna eraill sydd mewn perygl.
Rhagor o fanylion
Yng ngogledd Cymru, mae RWE, cwmni mwyngloddio glo enfawr o’r Almaen, yn cynnig datblygu Fferm Wynt Gaerwen, fyddai'n golygu rhwygo mawn hynafol (Mynydd Mynyllod) sy’n gartref i lawer o rywogaethau mewn perygl, ac arllwys miliynau o dunelli o goncrit. Mae hyn yn digwydd ledled Cymru.
Rydym yn cydnabod bod newid hinsawdd yn fygythiad i’n planed, ond nid yw hyn yn esgus i niweidio cynefinoedd a bryniau gwyllt Cymru yn ddiwrthdro. Pan fydd y Cymry’n edrych yn ôl ar y datblygiadau di-droi’n-ôl hyn a’r bobl a oedd yn rhan o'r gwaith, rydym yn credu y byddant yn eu cymharu â boddi cymoedd Cymru a’r mynyddoedd a ddinistriwyd ar gyfer eu llechi.
Mae cwmnïau ynni yn gweld elw mawr mewn ffermydd a datblygiadau tyrbinau gwynt ac nid ydynt yn eu hadeiladu er budd dynolryw. Maent yn eu hadeiladu i greu elw i gyfranddalwyr.
Byddwn yn edrych yn ôl ar y datblygiadau anadferadwy hyn sydd wedi dinistrio ein mynyddoedd ac yn gofyn pam na wnaeth y rhai mewn grym atal ein cefn gwlad rhag cael ei ecsbloetio. Mae angen i'r rhai sy'n cymryd rhan wneud pethau o ran y ffordd y bydd hanes yn eu barnu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon