Deiseb Uned anhwylderau bwyta arbenigol pobl ifanc ar gyfer Cymru
Nid oes unedau arbenigol yng Nghymru i helpu pobl sy’n mynd i’r afael ag anorecsia neu fwlimia. Mae pobl ifanc yn marw heb yr help hwn ac nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn gallu fforddio teithio i Loegr a thalu am driniaeth breifat. Mae anhwylderau bwyta’n effeithio ar filoedd o bobl ifanc yng Nghymru nad ydynt yn gallu cael yr help a'r driniaeth arbenigol y mae arnynt eu hangen yn daer.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd