Deiseb a gaewyd Amddiffyn adrannau iau Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru rhag cael eu cau

Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi darparu rhaglen gerddoriaeth ac actio i fyfyrwyr iau rhwng 4 a 18 oed ers 25 mlynedd. Ar hyn o bryd mae tua 300 o bobl ifanc dalentog yn mynd drwy ei ddrysau bob penwythnos, ac mae llawer ohonynt ar fwrsari. Dyma’r unig ddarpariaeth o’i math yng Nghymru.
Oherwydd trafferthion ariannol mae’r Coleg yn gorfod ymgynghori ynghylch cau’r rhaglenni actio a cherddoriaeth i bobl ifanc ar ddiwedd y tymor hwn.

Rhagor o fanylion

Os bydd y rhaglenni’n cau, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yr unig Ysgol Cerddoriaeth Frehninol heb adran i fyfyrwyr iau.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

10,560 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb hon ar gyfer dadl

Mae’r Pwyllgor Deisebau yn ystyried pob deiseb sy’n casglu mwy na 10,000 llofnod ar gyfer dadl