Deiseb a gaewyd Lleihau bil treuliau Aelodau o’r Senedd

O ystyried y sefyllfa ariannol bresennol y mae pob teulu yng Nghymru yn ei hwynebu, gan mai swydd yw bod yn Aelod o’r Senedd, rwy’n cynnig na ddylai’r treuliau y mae Aelodau o’r Senedd yn eu hawlio gynnwys costau y mae pob aelwyd arall yng Nghymru yn eu hysgwyddo, felly dim talu biliau cyfleustodau, y dreth gyngor, rhent na chostau gwella’r cartref mwyach. Ni ddylid talu mwy na gwerth cyfatebol cost trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer treuliau teithio, a chyfraddau Travelodge y dylid eu talu ar gyfer unrhyw arhosiad mewn gwesty.

Rhagor o fanylion

Byddai rhoi cap ar dreuliau yn y modd hwn yn gwneud i Aelodau’r Senedd weld beth mae pawb arall yn mynd drwyddo a’u gwneud yn llai parod i flaenoriaethu prosiectau porthi balchder a rhoddion i grwpiau lobïo sy’n honni bod yn elusennau, a byddai’n rhoi iddynt syniad o sut mae’r byd go iawn yn gweithio.
Byddai hefyd yn lleihau’r bil ar gyfer y 36 Aelod ychwanegol y mae’r Senedd am eu cael (yn wahanol i’r cyhoedd), a byddai’n golygu bod arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen ar y wlad hon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

368 llofnod

Dangos ar fap

10,000