Deiseb Addysg a Chefnogaeth o ran Niwrowahaniaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mamolaeth ac Amenedigol

Mae ar wasanaethau iechyd meddwl mamolaeth ac amenedigol angen gwasanaethau arbenigol niwrowahaniaeth yng Nghymru i gydweithio â hwy i sicrhau llwybrau gofal gwell ar gyfer pob rhiant newydd. Creu gwell gwybodaeth a bod yn ystyriol o niwrowahaniaeth yn eu gwaith. Ffurfio grŵp llywio o gynrychiolwyr o bob bwrdd iechyd yng Nghymru i greu pecynnau cymorth i staff, ac addysg, a chymorth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i rieni sy’n niwrowahanol, a rhaglenni cymorth rhianta ac iechyd meddwl sydd wedi’u teilwra ar gyfer eu hanghenion.

Rhagor o fanylion

Mae niwrowahaniaeth yn cyfeirio at y syniad bod gwahaniaethau niwrolegol, fel awtistiaeth, ADHD, a dyslecsia, yn amrywiadau naturiol yn y boblogaeth ddynol ac y dylid eu cydnabod a’u parchu felly. Yn anffodus, mae unigolion sy’n niwrowahanol mewn mwy o berygl nag unigolion niwronodweddiadol o ladd eu hunain.
Yn ôl yr adroddiad “MBRRACE-UK: Saving Lives, Improving Mothers' Care”, a gyhoeddwyd gan y sefydliad Mothers and Babies: Reducing Risk through Audits and Confidential Enquiries across the UK (MBRRACE-UK), hunanladdiad mamau yw un o brif achosion marwolaeth ymhlith menywod yn ystod y cyfnod amenedigol yn y DU.
4.8 y cant oedd y risg o hunanladdiad ymhlith tadau yn y cyfnod ôl-enedigol; i dadau â phroblemau iechyd meddwl, ystyrir bod y risg o hunanladdiad 47 y cant yn uwch yn ystod y cyfnod amenedigol nag ar unrhyw adeg arall yn eu bywydau. Quevedo et al (2011)

Llofnodi’r ddeiseb hon

14 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon