Deiseb a gaewyd Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus

Yn dilyn nifer o ddamweiniau a marwolaeth drasig preswylydd lleol ar yr A458, Treberfedd (y tu allan i Bank Farm), mae’r Cyngor Cymuned a’r Cynghorydd Lleol wedi galw am welliannau diogelwch brys ar y rhan hon o'r ffordd i helpu i atal ceir rhag goddiweddyd yn beryglus lle mae dau bant cudd. Mae ymateb diweddar gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn dweud nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd ar gyfer gwelliannau diogelwch ar y ffyrdd yn y lleoliad hwn. Ni allwn aros am farwolaeth arall. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu.

Rhagor o fanylion

Mae trigolion lleol, yn ogystal â llawer o aelodau eraill o'r cyhoedd sy'n teithio ar y ffordd hon yn rheolaidd, wedi’u tristáu ac yn rhwystredig nad oes unrhyw beth arall yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i wella diogelwch y ffyrdd yn yr ardal hon. Dylai Ysgrifennydd y Cabinet fod yn bresennol mewn cyfarfod ar y safle i drafod y pryderon ymhellach.
Er mwyn gwella'r rhan hon o'r ffordd, mae angen rhoi ystyriaeth frys i ddarparu'r canlynol:
• Camera cyflymder parhaol
• Ymestyn y llinellau 'dim goddiweddyd' gwyn dwbl i'r ddau gyfeiriad
• Rhoi wyneb newydd ar y ffordd, yn benodol yr ardaloedd tarmac coch.
• Golau sy'n fflachio sy'n dangos cyflymder gyrrwr ac yn dweud na ddylid goddiweddyd ceir eraill.
• Golau sy'n fflachio i dynnu sylw at y ffaith bod car yn y pant cudd o'u blaenau.
Fel rhan o'r adolygiad o ddiogelwch ar y ffyrdd, hoffem i gyflymder y ffordd gael ei ystyried, ac a fyddai lleihau'r cyflymder yn helpu i atal unrhyw ddamweiniau yn y dyfodol

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

311 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi casglu 107 llofnod ar bapur.