Deiseb Rhoi Stop ar Sgandal: Cwmni Diogelwch Meddyginiaethau a Ariennir gan Gymru wedi'i Rwystro rhag Cyflenwi yng Nghymru!

SGANDAL: Fel llawer o bobl, rwy’n stryglan gyda meddyginiaethau lluosog. Mae paciau pothellog bob dydd yn hanfodol, ond maen nhw’n cael eu hatal gan fferyllfeydd oherwydd diffyg staff a phwysau ariannol. Mae’r ateb yn syml. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu PillTime, y fferyllfa fwyaf ond dwy yn y DU erbyn hyn, sy’n defnyddio roboteg i awtomeiddio’r broses ers 2011, ond nid oes gan gleifion Cymru fynediad at y gwasanaeth hwn oherwydd methiant ofnadwy Fy Iechyd Ar-lein. Mae ap GIG Lloegr yn gweithio, felly dylid ei fabwysiadu a rhoi’r gorau i gloi cleifion Cymru allan o’r gwasanaethau rydym yn talu amdanynt. Arwyddwch, os gwelwch yn dda.

Rhagor o fanylion

Rwy’n deisebu i roi stop ar y methiannau technolegol yn y GIG yng Nghymru sy’n ein hamddifadu o arloesi hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu PillTime, sy'n defnyddio roboteg i greu codenni meddyginiaeth hawdd eu defnyddio, ond mae cleifion yng Nghymru yn methu â defnyddio’r gwasanaeth hwn oherwydd methiannau technolegol. Mae hyn yn codi gwrychyn ac yn beryglus. Mae angen i ni fabwysiadu ap GIG Lloegr neu gydweithio â systemau megis Apple Health i alluogi e-bresgripsiynau a symleiddio gofal cleifion. Mae fferyllfeydd yn cael eu llethu gan becynnau cydymffurfio, prinder staff, a materion ariannu, sy’n roi cleifion mewn mwy o berygl. Mae’n bryd rhoi terfyn ar y bwnglera troseddol yn GIG Cymru, Fy Iechyd Ar-lein ac eConsult. Rhaid inni flaenoriaethu moderneiddio ein technoleg gofal iechyd a sicrhau bod cleifion Cymru yn cael y gofal arloesol maen nhw’n ei haeddu. Ymunwch â mi i fynnu bod camau’n cael eu cymryd ar unwaith i fabwysiadu Ap GIG Lloegr yn y tymor byr ac i roi diwedd ar wastraffu arian a pheryglu iechyd. Mae hon yn sgandal genedlaethol a rhaid mynd i'r afael ag hi nawr — mae Vaughan Gethin wedi methu. Helpwch.

Llofnodi’r ddeiseb hon

10 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon