Deiseb Creu llwybr gofal a thriniaeth ARFID a’i roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru

Mae anhwylder osgoi/cyfyngu o ran y bwyd (ARFID) yn anhwylder bwyta a all effeithio'n ddifrifol ar fywydau pobl. Nid yw’r anhwylder hwn mor adnabyddus ag anhwylderau bwyta eraill ac felly nid yw pobl yn cael y gofal a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt i'w helpu gyda’u hanawsterau. Bu achosion o blant yn marw o'r cyflwr hwn cyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyd yn oed sylweddoli bod ganddynt yr anhwylder oherwydd bod y plant wedi llithro drwy'r rhwyd yn gyfan gwbl.

Rhagor o fanylion

Nid yw llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol erioed wedi clywed am yr anhwylder neu maent yn ymwybodol ohono ond nid ydynt yn gwybod sut i drin y cleifion oherwydd diffyg hyfforddiant a dealltwriaeth. Mae hyn yn achosi trallod i gleifion sy'n cael eu gorfodi i gymryd bwyd, diodydd, atchwanegiadau drwy’r geg a meddyginiaethau drwy’r geg er bod hyn yn heriol iawn iddynt ei wneud. Mae rhieni plant ag ARFID yn aml yn cael eu hanwybyddu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac nid yw’n anghyffredin gweld pobl yn beio rhieni am arferion bwyta eu plant. Mae’r ychydig weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwybodol o’r cyflwr yn aml yn dweud nad oes unrhyw beth y gallant ei wneud oherwydd ei fod yn “anhwylder bwyta cymharol newydd”, fodd bynnag mae ARFID wedi bod yn anhwylder bwyta cydnabyddedig ers 2013 ac am flynyddoedd lawer cyn hynny, cyfeiriwyd ato fel Anhwylder Bwyta Dewisol. Mae angen i ni greu llwybr ARFID ym MHOB UN o fyrddau iechyd Cymru a dechrau cefnogi cleifion a theuluoedd sydd wedi bod yn brwydro ar eu pen eu hunain yn dawel heb unrhyw gymorth proffesiynol.

Llofnodi’r ddeiseb hon

157 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon