Deiseb Lleihau amser aros triniaeth canser - 62 o ddiwrnodau i 30 o ddiwrnodau ar y mwyaf yng Nghymru.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, disgwylir i fyrddau iechyd ddechrau cynlluniau triniaeth canser gyda’r rhai yr amheuir bod arnynt ddiagnosis positif o ganser, o fewn 62 o ddiwrnodau.
Mae hyn yn llawer rhy hir ac mae angen ei leihau i hyd at 30 o ddiwrnodau cyn i driniaeth ddechrau.

Rhagor o fanylion

Mae’r Bartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser wedi canfod bod gwledydd ag amseroedd aros byrrach ar gyfer triniaeth canser, yn enwedig cemotherapi a radiotherapi, â chyfraddau uwch o oroesi’r clefyd.
Yr amser cyfartalog i ddechrau triniaeth cemotherapi yng Nghymru yw 58 o ddiwrnodau. At ddiben cymharu, 39 o ddiwrnodau ydyw yn Norwy.
Yr amser cyfartalog i ddechrau triniaeth radiotherapi yng Nghymru yw 81 o ddiwrnodau. At ddiben cymharu, 42 o ddiwrnodau ydyw yn Newfoundland.
Er mwyn cael canlyniadau gwell ar gyfer triniaeth canser, mae RHAID lleihau’r amser sy’n cael ei gymryd i ddechrau triniaeth ar ôl diagnosis/amau presenoldeb canser.

Llofnodi’r ddeiseb hon

41 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon