Deiseb Sicrhau diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n dioddef o sgîl-effeithiau negyddol brechlyn COVID-19

Rwy'n dioddef o Adwaith Niweidiol Brechlyn Covid-19. O ganlyniad, mae fy mywyd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth. Rwy'n cael trafferth gwneud tasgau sylfaenol, mewn poen cyson ac wedi dod yn ddibynnol ar fy nheulu i ofalu amdanaf. Yn fy mhrofiad i, nid yw llawer o weithwyr iechyd proffesiynol yn cydnabod y symptomau a'r dioddefaint a achosir gan yr adwaith i’r brechlyn. Rwy'n galw am well ymwybyddiaeth a llwybr priodol ar gyfer diagnosis a thriniaeth i'r rhai sy'n dioddef sgîl-effeithiau gwanychol o'r fath.

Rhagor o fanylion

Mae'n bwysig gwrando ar effaith ddinistriol adweithiau niweidiol i frechlyn Covid y mae miloedd wedi'i brofi, a chydnabod hynny. Mae angen rhagor o ymchwil i symptomau a salwch sy'n deillio o frechu, gyda gwell diagnosis a thriniaeth, clinigau arbenigol neu glinigwyr a all ddarparu triniaeth briodol.

Mae cydnabod symptomau pobl a'r effaith y mae'n ei chael yn bwysig i lesiant ac iechyd meddwl pobl. Mae'n hanfodol bod pobl yn cael eu deall, yn hytrach na chael eu anwybyddu. Mae diagnosis yn bwysig, nid yn unig o ran nodi'r driniaeth fwyaf priodol, ond hefyd o ran galluogi pobl i gael gafael ar ofal a chymorth arall a gwneud cais am iawndal ariannol. Cefnogwch y ddeiseb hon i wella'r gofal iechyd a gaiff pawb sydd wedi profi effaith mor negyddol o gael brechlynnau COVID-19.

Mae yna grwpiau cefnogi ar gyfer pobl sydd wedi dioddef profediageth neu sgîl-effeithiau negyddol brechlyn COVID-19 gan gynnwys:
https://www.ukcvfamily.org/

https://findothers.com/campaign/families-fighting-for-a-uk-bespoke-compensation-sc
https://scottishvaccineinjurygroup.org/

Llofnodi’r ddeiseb hon

421 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon