Deiseb Rhoi llais i gymdogion pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwyddedau

Mae miloedd o letyau gwyliau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod llawer ohonom yn cael ein bod o’r sydyn yn byw yn ymyl busnesau yn lle cartrefi, a ninnau heb unrhyw ddweud yn y mater.
Mae'r cynllun trwyddedu llety gwyliau yn yr Alban yn caniatáu i gymdogion ymateb i geisiadau am drwydded: yna gall ymatebion y cymdogion gael eu hystyried fel sail bosibl dros wrthod cais.
Rydym am i Lywodraeth Cymru gynnwys ymgynghoriad â chymdogion yng nghynllun trwyddedu llety gwyliau Cymru hefyd.

Rhagor o fanylion

Yn ogystal â galluogi darparwyr llety gwyliau i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion ansawdd a diogelwch, credwn y dylai'r cynllun trwyddedu yng Nghymru hefyd fynd i'r afael â'r materion mae cymdogion yn eu hwynebu.
Disgwylir i ddeddfwriaeth ar gyfer cynllun trwyddedu llety gwyliau yng Nghymru gael ei gyflwyno yn y Senedd cyn diwedd 2024, ac rydym am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun trwyddedu Llywodraeth yr Alban yn y modd canlynol:
1. caiff cymdogion eu hysbysu ynghylch ceisiadau am drwyddedu newydd a cheisiadau i adnewyddu trwyddedau;
2. caiff cymdogion godi gwrthwynebiadau/pryderon mewn ymateb i gais am drwydded;
3. caiff gwrthwynebiadau cymdogion eu hystyried yn sail bosibl dros wrthod cais am drwydded.

Llofnodi’r ddeiseb hon

758 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon