Mae’n ddrwg gennym, ni allwch lofnodi deisebau sydd wedi’u cau

Deiseb a gaewyd Rhoi llais i gymdogion pan fydd perchnogion llety gwyliau yn dechrau gwneud cais am drwyddedau

Mae miloedd o letyau gwyliau yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod llawer ohonom yn cael ein bod o’r sydyn yn byw yn ymyl busnesau yn lle cartrefi, a ninnau heb unrhyw ddweud yn y mater.
Mae'r cynllun trwyddedu llety gwyliau yn yr Alban yn caniatáu i gymdogion ymateb i geisiadau am drwydded: yna gall ymatebion y cymdogion gael eu hystyried fel sail bosibl dros wrthod cais.
Rydym am i Lywodraeth Cymru gynnwys ymgynghoriad â chymdogion yng nghynllun trwyddedu llety gwyliau Cymru hefyd.

Rhagor o fanylion

Yn ogystal â galluogi darparwyr llety gwyliau i ddangos eu bod yn cydymffurfio â gofynion ansawdd a diogelwch, credwn y dylai'r cynllun trwyddedu yng Nghymru hefyd fynd i'r afael â'r materion mae cymdogion yn eu hwynebu.
Disgwylir i ddeddfwriaeth ar gyfer cynllun trwyddedu llety gwyliau yng Nghymru gael ei gyflwyno yn y Senedd cyn diwedd 2024, ac rydym am i Lywodraeth Cymru fabwysiadu cynllun trwyddedu Llywodraeth yr Alban yn y modd canlynol:
1. caiff cymdogion eu hysbysu ynghylch ceisiadau am drwyddedu newydd a cheisiadau i adnewyddu trwyddedau;
2. caiff cymdogion godi gwrthwynebiadau/pryderon mewn ymateb i gais am drwydded;
3. caiff gwrthwynebiadau cymdogion eu hystyried yn sail bosibl dros wrthod cais am drwydded.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,027 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi bod yn casglu llofnodion ar bapur ac wedi casglu 1033 o lofnodion ar bapur.