Deiseb a wrthodwyd Sicrhau bod Gofal Sylfaenol yng Nghymru yn cael yr un arian â Gofal Sylfaenol yn Lloegr.
Os ydych yn byw yng Nghymru, mae’n bosibl na fydd modd i lawer ohonoch weld eich Meddyg Teulu. Mae cyllid ledled y DU yn frawychus o isel ond mae’r sefyllfa’n waeth yng Nghymru.
Mae academyddion yn amcangyfrif y byddai practis yng Nghymru sy’n gofalu am yr un garfan o gleifion â Phractis Meddygon Teulu yn Lloegr yn cael 11.2 y cant yn llai o gyllid ar gyfartaledd*.
Er mwyn achub Practisau Meddygon Teulu yng Nghymru – mae angen newid.
Rhagor o fanylion
* Rhys G, Beerstecher HJ, Morgan CL. Primary care capitation payments in the UK. An observational study. BMC Health Serv Res. 2010 Jun 8;10:156. doi: 10.1186/1472-6963-10-156.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi