Deiseb a wrthodwyd Adeiladu gorsafoedd trenau newydd ym Mharc Gwledig Pen-bre a maes sioe Nant y Ci yn Sir Gaerfyrddin
Mae Parc Gwledig Pen-bre a maes sioe Nant y Ci yn atyniadau poblogaidd yn Sir Gaerfyrddin. Mae prif linell reilffordd yn mynd heibio i’r ddau atyniad ond does dim gorsafoedd gerllaw. A allwch chi helpu i leihau tagfeydd traffig a llygredd yn yr ardaloedd hyn, yn ogystal â’u gwneud yn fwy hygyrch i’r rheini nad oes ganddynt gar, drwy adeiladu gorsafoedd trenau newydd er mwyn cyrraedd yr atyniadau hyn, hyd yn oed os yw’r trên yn stopio yno ar gais?
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi