Deiseb Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)

Wedi ein hysbrydoli gan y mudiadau Smartphone Free Childhood a Delay Smartphones, yn ogystal ag ymchwil neilltuol ddiweddar ar effeithiau negyddol dwys ffonau clyfar ar blant, rydym yn galw ar Senedd Cymru i’w gwahardd ym mhob ysgol yng Nghymru, gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol. Mae defnyddio ffonau clyfar yn achosi pryderon sylweddol o ran llesiant a diogelu. Rydym yn pryderu’n fawr am ddatblygiad cymdeithasol ac iechyd meddwl ein plant ac yn credu bod gan bob disgybl yr hawl i fod mewn ysgol heb ffonau clyfar.

Rhagor o fanylion

Mae iechyd meddwl plant ar ei isaf erioed, gyda ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ymysg y prif ffactorau cyfrannol. Mae ymchwil yn amlygu effeithiau andwyol ffonau clyfar ar blant, gydag adroddiad gan Bwyllgor Dethol Senedd y DU yn nodi bod y risgiau sy’n gysylltiedig ag amser o flaen sgrin yn drech na’r manteision. Yn ddiweddar, fe alwodd y BMJ am ymateb iechyd cyhoeddus rhagofalus. Mae ffonau clyfar yn amharu ar ddatblygiad yr ymennydd, yn gostwng hunan-barch, yn achosi gorbryder, ac yn dod â phlant i gysylltiad â chynnwys niweidiol. Mae adroddiadau'n cynnwys cyfeiriadau at bobl ifanc yn eu harddegau yn gweld pobl yn cael eu lladd go iawn ar gyfryngau cymdeithasol ac achosion o hunanladdiad oherwydd 'blacmel rhywiol.' Mae 83% o rieni yn credu bod ffonau clyfar yn niweidiol, gyda 58% yn cefnogi gwaharddiad i blant dan 16 oed (arolwg Parentkind).
Mae gwledydd megis Ffrainc, y Ffindir, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Sweden, a Tsieina, ynghyd â llawer o ysgolion yn y DU ac UDA, wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ffonau clyfar, gan arwain at well canolbwyntio a llesiant ymhlith myfyrwyr. Mae UNESCO a Llywodraeth y DU hefyd wedi galw am waharddiad ar ffonau clyfar mewn ysgolion.

Llofnodi’r ddeiseb hon

3,343 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon