Deiseb Cael gwared ar drwydded gocos Cymru gyfan a chynllun rheoli draenogiaid y môr.

Gadewch i bysgotwyr gael dweud eu dweud.

A finnau’n bysgotwr am y 30 mlynedd diwethaf, nid wyf erioed wedi gweld cymaint o benderfyniadau anghywir gan Lywodraeth Cymru - maent yn dinistrio ein bywoliaeth. Roedd gan Gilfach Tywyn 50 o gasglwyr cocos trwyddedig ers 1965, gan gefnogi cenedlaethau, ond nawr yn 2025 nid yw’n adnewyddu’r trwyddedau gan wneud 50 o bobl yn ddi-waith. Mae tri gwely cocos yr afon am ddim i bawb, ac er iddyn nhw addo ym 1998 y byddai’n cael ei drwyddedu, maen nhw wedi methu eto. Mae i fod i agor mewn pythefnos gyda chyfanswm y ddalfa a ganiateir yn 800 tunnell. Gyda 120 o gychod yn troi i fyny, a phob un yn cario tunnell yr un, ni fydd ond wyth diwrnod o waith i ni’r pysgotwyr llawn amser.

Rhagor o fanylion

Rydym hefyd yn poeni am ein gallu i bysgota draenogiaid y môr, gan eu bod yn gwneud penderfyniadau heb siarad â physgotwyr profiadol. Mae yna grŵp cynghori sy'n llawn cynffonwyr - rhaid i bob un sy'n ymaelodi gytuno â'r pysgodfeydd neu golli ei le.
Mae pysgodfeydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mynd â phob gwely cocos cyhoeddus yng Nghymru ac nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.

Llofnodi’r ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon