Deiseb Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau

Ym mis Medi 2012, ymunodd trigolion Caerau ac ardaloedd eraill yng Nghymru â chynllun effeithlonrwydd ynni a gynhaliwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Darparodd y cynllun inswleiddio wal fewnol ac allanol i'r tai dan sylw ac, ers i’r inswleiddio gael ei osod, mae tai cyfranogwr wedi dioddef o leithder a llwydni.
Mae hyn yn ei dro wedi bod yn dreth ar gyllid preswylwyr ac mae wedi effeithio'n negyddol ar iechyd meddwl preswylwyr.
Fe wnaethon ni ymuno â'r cynlluniau hyn gyda phob ewyllys da, ac rydym nawr am i'r ewyllys da honno gael ei had-dalu.

Rhagor o fanylion

Roedd y gwaith yn cynnwys insiwleiddio mewnol ac allanol, boeleri newydd, fentiau ar yr eiddo, a gwaith rendro.
Ers i'r gwaith gael ei wneud, mae trigolion wedi gorfod byw gydag achosion eithafol o leithder a llwydni. Oherwydd hyn, mae trigolion yn gorfod talu am waith i unioni pethau, fel talu am geginau newydd, carpedi newydd, paent newydd, bleindiau newydd. Mae hyn wedi bod yn broblem barhaus ers dros ddegawd bellach. Yn anffodus, mae rhai trigolion wedi marw heb weld y materion hyn yn cael eu datrys. Ceir isod lincs i straeon newyddion sy'n rhoi rhagor o wybodaeth:
https://oggybloggyogwr.com/2021/11/the-caerau-insulation-scandal-a-timeline-of-shame/
https://oggybloggyogwr.com/2021/11/welsh-government-unenthusiastic-about-supporting-arbed-scandal-clean-up-in-caerau/
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-60765932

Rhaid unioni’r difrod i'r eiddo, a rhaid digolledu’r trigolion am y miloedd o bunnoedd maen nhw wedi eu talu o’u pocedi eu hunain i ddadwneud y difrod.

Llofnodi’r ddeiseb hon

330 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon

Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Busnes arall y Senedd

Llofnodion ar bapur

Yn ogystal â'r ddeiseb ar-lein, mae'r ddeiseb yma wedi casglu 273 llofnod ar bapur.

Rhannu’r ddeiseb hon