Deiseb Sefydlu parth 100m o led o amgylch arfordir Cymru i adfer byd natur a helpu i gyrraedd 30% erbyn 2030.
Sefydlu parth arfordirol 100 metr o led o amgylch arfordir Cymru i adfer ecosystemau yn ogystal â gwella economïau arfordirol sy’n dibynnu ar fyd natur.
Ar hyn o bryd, dim ond 5 y cant o dir y DU sy’n gymwys i’w ddisgrifio fel tir sydd wedi’i warchod yn effeithiol er lles natur. Mae’n rhaid inni adfywio byd natur ac adfer cynefinoedd. Byddai cymryd y cam hwn yn gwneud cyfraniad mawr tuag at neilltuo 30 y cant o dir Cymru at ddibenion adfer byd natur erbyn 2030. Hefyd, byddai'n chwarae rhan fawr yn yr ymdrechion i ymdrin â'r argyfwng natur.
Rhagor o fanylion
Cymru yw un o'r gwledydd lle mae natur wedi dirywio fwyaf yn y byd, gyda thua hanner ein bywyd gwyllt wedi’i golli yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae nifer o adroddiadau 'Sefyllfa Byd Natur' wedi dweud wrthym nad yw ‘busnes fel arfer’ yn opsiwn mwyach.
Natur yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr. Rydym yn dibynnu arni am yr aer rydym yn ei anadlu, y dŵr rydym yn ei yfed a'r bwyd rydym yn ei fwyta.
Byddai sefydlu parth clustogi arfordirol o fudd i fywyd gwyllt lleol ac yn rhoi hwb i’n diwydiant eco-dwristiaeth.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd