Deiseb a wrthodwyd Dylid galw am ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau Gwynedd i ddiogelu plant, ac nid yn Ysgol Friars yn unig

Ar 15.05.24, ar ôl gwadu pob cyhuddiad, cafwyd y prifathro Neil Foden yn euog o 19 o droseddau rhyw a gyflawnwyd yn erbyn 4 merch rhwng 2019 a 2023. Yn 2019 codwyd pryderon gydag uwch swyddogion yn yr adran addysg a'r adran ddiogelu ond diystyriwyd yr holl bryderon a ni gynhaliwyd ymchwiliad. Rwy’n pryderu nad yw hwn yn achos unigol, a bod uwch-reolwyr wedi peidio ag ymchwilio i adroddiadau o gam-drin a chamymddwyn ar sawl achlysur.

Rhagor o fanylion

Er mwyn diogelu plant yn y dyfodol mae angen inni sicrhau bod y system gyfan yn dod o dan y chwyddwydr, gan gynnwys edrych yn ofalus ar yr hyn a ddigwyddodd pan godwyd pryderon a honiadau eraill. Er fy mod yn sylweddoli y bydd yr Adolygiad Ymarfer Plant yn ceisio deall y digwyddiadau a dysgu gwersi ohonynt, nid wyf yn credu y bydd hynny’n ddigonol yn yr achos hwn ble y gwelwyd methiant systemig yr awdurdod lleol i ddiogelu plant yn unol â'i ddyletswyddau statudol.
Cyfyngedig yw pwerau Adolygiad Ymarfer Plant gan na all orfodi tystion i gymryd rhan nac i ddarparu tystiolaeth, ac ni fydd pobl yn cyfrannu ato ar lw. Mae'r adolygiad yn Rochdale, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn dyst i hyn.
Rwy’n ymwybodol fod pryderon a chwynion yn erbyn staff wedi cael eu diystyru ac nad yw lleisiau plant yn cael eu clywed. Rhaid ymchwilio i Gyngor Gwynedd a'i ddwyn i gyfrif.
https://bit.ly/3zH2qOt

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi