Deiseb Sefydlu strwythur o fewn y Senedd i wahardd gwleidyddion sy’n euog o ddichell fwriadol
Mae Adam Price AS yn ceisio cynnal gonestrwydd ac atebolrwydd yng ngwleidyddiaeth Cymru. Mae dweud celwydd yn parhau’n fater dadleuol mewn gwleidyddiaeth yn fyd-eang, ac mae’r fenter hon yn ymdrech glodwiw i ymdrin â’r mater hwn yn uniongyrchol. I feithrin ymddiriedaeth ymhlith pobl Cymru, mae’n rhaid parhau i drafod y mater. Mewn unrhyw broffesiwn, mae anonestrwydd fel arfer yn arwain at golli swydd; felly, mae’n syfrdanol y byddai gwleidyddion, sy’n gyfrifol am gyllid cyhoeddus gwerth biliynau o bunnoedd, yn gwrthwynebu mesurau o’r fath oni bai bod ganddynt rywbeth i’w guddio.
Rhagor o fanylion
Drwy welliant i’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), roedd Adam Price AS yn bwriadu cyflwyno gweithdrefn a fyddai’n anghymwyso Aelodau o’r Senedd a gafwyd yn euog o ddichell fwriadol. Dylai’r Senedd gyflwyno cynnig i greu trosedd o ddichell.
Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod y ddeiseb hon
Caiff pob deiseb â mwy na 250 llofnod ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar ôl iddi orffen casglu llofnodion
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd