Deiseb a gaewyd Deddf newydd gan y Senedd i adalw cynghorwyr lleol

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith sy’n caniatáu i etholwyr gael gwared ar gynghorwyr sy'n gwasanaethu mewn awdurdod lleol, ac eithrio yn ystod etholiad, sy'n digwydd bob pum mlynedd. Mae angen Deddf newydd arnom, sy’n debyg i’r Ddeddf ar adalw Aelodau Seneddol, ond sy’n ymwneud y tro hwn ag adalw cynghorwyr.
Credaf ei bod ond yn deg ein bod yn ymdrin â chynghorwyr lleol yn yr un modd ag yr ydym yn ymdrin ag Aelodau Seneddol. Os nad yw cynghorwyr yn cyflawni eu rolau, dylid cael gwared arnynt a rhoi pobl eraill yn eu lle, a fydd yn gwireddu dymuniadau pleidleiswyr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

686 llofnod

Dangos ar fap

10,000