Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i fechgyn wisgo siorts yn yr ysgol uwchradd.
Yn yr haf yn benodol, mae’n gallu bod yn boeth iawn ac yn anghyfforddus mewn ysgolion. Caniateir i ferched wisgo sgertiau i’r ysgol, ond ni chaniateir i fechgyn wisgo siorts yn y rhan fwyaf o ysgolion! Gall hyn achosi rhwystredigaeth ac ymddygiad gwael.
Credaf y dylai bechgyn hefyd allu teimlo’n gŵl ac yn gyfforddus wrth iddynt astudio.
Rhagor o fanylion
Caiff merched wisgo sgertiau yn lle trowsus felly pam na chaiff bechgyn wisgo siorts?
Pan fydd plant yn teimlo’n boeth ac yn anghyfforddus, byddant yn mynd yn flin. Oherwydd hyn, mae’n bosibl y byddant yn ymddwyn yn wael ac na fyddant yn gallu canolbwyntio yn eu gwersi.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi