Deiseb a wrthodwyd Ychwanegu gwersi gorfodol ar lythrennedd yn y cyfryngau at addysg brif ffrwd.
Rydym yn byw mewn oes o wybodaeth, gyda llwyth o wybodaeth ar gael ar bob adeg o’r dydd o ffynonellau dirifedi.
Er bod hyn yn rhyfeddol, mae hefyd yn galluogi unigolion a grwpiau rhagfarnllyd neu sydd â bwriad drwg i ledaenu cynnwys. Felly, nid yw llythrennedd yn y cyfryngau bellach yn bwnc dewisol; mae'n hanfodol i bawb. Mae'r gallu i ddadansoddi ac arfer barn mewn perthynas â’r cyfryngau yn hanfodol i’n galluogi i ganfod ffynonellau credadwy o wybodaeth ac ymdrin â chamwybodaeth. Mae llythrennedd yn y cyfryngau yn grymuso ymgysylltiad gwybodus â’r byd, felly mae gennym ddyletswydd i hwyluso hynny yng Nghymru.
Rhagor o fanylion
Linc i wefan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol, sy’n nodi’r ymchwil gyfredol a manteision addysg yn y maes hwn:
https://literacytrust.org.uk/blog/the-governments-media-literacy-strategy-what-do-schools-need-to-know/
Papur briffio ar waith ymchwil gan MIT Initiative on the Digital Economy yn crynhoi eu canfyddiadau ynghylch ymlediad newyddion ffug a mwy:
https://ide.mit.edu/wp-content/uploads/2018/12/2017-IDE-Research-Brief-False-News.pdf
Erthygl yn The Independent yn trafod dwy enghraifft o ganlyniadau andwyol camwybodaeth:
https://www.independent.co.uk/news/uk/home-news/southport-social-media-misinformation-olympic-boxer-b2587647.html
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi