Deiseb a wrthodwyd Sicrhau llwybr clir i bobl ifanc 16-18 oed sydd ag anghenion ychwanegol pan fo angen gofal y GIG arnynt
Mae gan fy mab anghenion ychwanegol ac anghenion iechyd. Feddyliais i erioed y byddai rhaid i mi frwydro i gael gofal iechyd priodol iddo pan fyddai’n troi’n 16.
Cafodd ei adael mewn poen am wyth diwrnod gyda phenelin wedi torri yr oedd angen llawdriniaeth frys arno.
Sail yr oedi i ddechrau oedd fod y gwasanaethau pediatrig yn gwrthod rhoi ôl-ofal iddo am ei fod bellach yn 16 oed a’r gwasanaethau i oedolion yn gwrthod rhoi gofal iddo am fod ganddo anghenion ychwanegol.
Rhagor o fanylion
Mae llawer o bethau na all fy mab ac eraill tebyg iddo eu gwneud, fel pleidleisio, prynu alcohol, ymdrin â materion cyfreithiol, am eu bod yn cael eu hystyried, o dan 18 oed, yn blant. Ond, yn sydyn, ac yntau fwyaf agored i niwed, mae’n oedolyn a ddylai allu ymdopi heb ddim cefnogaeth, oherwydd, yn swyddogol, dim ond yn ystod oriau ymweld y gall oedolion gael cefnogaeth.
Yn y pen draw, aeth fy mab i ward oedolion lle’r oedd y staff yn wych ac yn gadael i mi gysgu mewn cadair wrth ei ymyl. Roedd yno gyda throseddwr dan warchodaeth yr heddlu a charcharor dan warchodaeth gard, a oedd yn ymosod yn eiriol ar y staff. Rwyf wedi gofyn i fy ymddiriedolaeth leol ac i Lywodraeth Cymru am wybodaeth am y llwybr, a does neb wedi ymateb gyda’r wybodaeth. Os nad oes lle swyddogol i bobl fel fy mab, pam na ellir meddwl am wneud lle iddynt? Neu gytuno nad ydynt yn oedolion yn 16 oed, a chaniatáu i bobl ifanc a’u teuluoedd wneud dewisiadau ynglŷn â’u gofal?
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi