Deiseb Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i addysgu cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth ar draws pob ysgol.
Mae gwir angen cryfhau’r addysg a ddarperir ynghylch cynhyrchu bwyd ac amaethyddiaeth ar draws pob ysgol, er mwyn helpu disgyblion i ddysgu am y gwaith llafur sydd ynghlwm wrth y broses o gynhyrchu bwyd. Dylai hyn gynnwys gwersi yn y dosbarth ac ymweliadau ymarferol i leoliadau lle mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, gyda’r nod o archwilio cyfraniad amaethyddiaeth i'r iaith Gymraeg, cymunedau gwledig a'r economi. Mae’n bwysig bod disgyblion yn deall o ble y daw eu bwyd, a’u bod yn deall y broses o’r cae i’r plât.
Ar ôl casglu 250 llofnod...
Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau
Ar ôl 10,000 llofnod...
Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd