Deiseb Gwnewch Ofal Ataliol yn Flaenoriaeth i Achub Bywydau a Diogelu’r GIG

Mae cyllid ar gyfer y GIG wedi bod yn rhy gul ei olwg, gan anwybyddu manteision hirdymor gofal ataliol i gadw costau uniongyrchol i lawr. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu mai dim ond tua 5 y cant o gyllideb GIG y DU sy’n cael ei neilltuo i’r maes hwn. Fodd bynnag, gallai dulliau sgrinio cynnar, brechiadau rheolaidd, ac archwiliadau rheolaidd arbed biliynau o bunnoedd y flwyddyn i'r GIG.

Caiff 22.6 y cant o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr eu hystyried yn rhai y gellir eu hatal, ac mae 80 y cant o gyflyrau iechyd yn y cyfnod cyn-symptomatig ar hyn o bryd.

Mae atal cynnar yn allweddol i achub bywydau a'r GIG.

Rhagor o fanylion

Rhai enghreifftiau:

Mae'r eryr yn costio £17.3 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i'r DU. Yn yr Unol Daleithiau, mae'r brechlyn varicella wedi arbed $23.4 biliwn i'r wlad ers 1995. Caiff y rhai sy'n cael y brechlyn varicella eu hamddiffyn rhag yr eryr, a allai leihau'r gost i'r GIG yn sylweddol.
Caiff 48 y cant o ganserau eu canfod ar Gam 3 neu 4. Mae cost gofal yn sylweddol uwch ar y camau hyn na phe baent wedi'u canfod yn gynnar. Canser y fron yw un o brif achosion marwolaeth ymhlith menywod o dan 50 oed, ond dim ond ar ôl yr oedran hwnnw y mae'r GIG yn cynnig mamogramau.

Byddai sgrinio iechyd rheolaidd i bawb hefyd yn lleihau'r costau’n sylweddol, yn ogystal â lleihau nifer y marwolaethau sy'n deillio o ordewdra, colesterol, pwysedd gwaed uchel, diabetes, a mathau canfyddadwy eraill o salwch.
Mae yna reswm pam mae pob cwmni yswiriant yn yr Unol Daleithiau yn talu am ofal ataliol. Oherwydd ei fod yn arbed arian.

Gall Cymru ddiogelu’r GIG, achub bywydau, ac arbed biliynau. Gofynnwn i Gymru weithredu.

Wayne a Miller (2023), Cancer Research UK, CDC, GIG, SYG y DU.

Llofnodi’r ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon