Deiseb a wrthodwyd Ymchwiliad i argaeledd meddyginiaeth ADHD yng Nghymru a datrys unrhyw broblemau cyflenwi

Ar gyfartaledd rwy'n ffonio dros 30 o wahanol fferyllfeydd mewn awdurdodau amrywiol i gael meddyginiaeth ADHD, ac nid fi yw’r unig un sy’n gorfod mynd drwy’r broses anodd hon bob tro y byddaf yn cael presgripsiwn newydd.

Dychmygwch aros am flynyddoedd i gael diagnosis a meddyginiaeth, ond wedyn clywed "allwn ni ddim cael eich meddyginiaeth". Mae eich corff yn dod i arfer â'ch meddyginiaeth ac mae ei chymryd i ffwrdd yn rhwystredig. Ni all fferyllfeydd archebu'r feddyginiaeth hon, rydym yn dibynnu ar stoc dros ben ac rydym yn clywed y dylem gymryd meddyginiaeth dim ond pan fydd angen.

Rhagor o fanylion

Mae timau iechyd meddwl y GIG yn dweud wrthym am gymryd ein meddyginiaeth dim ond pan fydd gwir angen. Mae'r taflenni meddyginiaeth a gwefannau'r GIG yn nodi na ddylech roi'r gorau i gymryd eich meddyginiaeth yn sydyn. Os nad ydym yn cymryd y feddyginiaeth fel y dylem, rydym yn dioddef pethau fel blinder, diffyg cwsg, hypersomnia, breuddwydion byw, iselder, a chur pen. Sut mae unrhyw un i fod i fyw a gweithio fel hyn?

Nid ydym yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl y GIG, meddygon teulu na fferyllfeydd gan na allant wneud dim am y diffyg meddyginiaeth, gan fod hyn yn digwydd ar draws y DU.

Ni ellir disgwyl i ni barhau fel hyn heb gynnig unrhyw opsiynau eraill. Mae'n achosi mwy o bryder, straen, iselder ac absenoldeb o'r gwaith, ac mae’n effeithio ar berthnasoedd teuluol/rhwydwaith.

Hoffem i Lywodraeth Cymru gydnabod bod yna broblem, bod pobl yn dioddef, ac nad yw hyn yn cael ei ddatrys. Rydym ni’n bwysig hefyd, felly rhowch flaenoriaeth i ni.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi